Cyllid a Thollau EF - Cyfieithydd
- by HMRC
- Location Cardiff, South Wales, UK
-
Salary
£28,341 / year
17 days ago
Job Description:
Datblygwch eich gyrfa gyda CThEF. A ydych chi’n chwilio am bwrpas, am gyfle i dyfu, neu am weithle sydd wir yn rhoi ymdeimlad o berthyn? Gwrandewch ar rai o’n cyflogeion yn rhannu eu profiadau o weithio yn CThEF.
Dewch i’n sianel YouTube i wylio’r gyfres gyfan a darganfod eich potensial. Yn CThEF, rydym wedi ymrwymo i greu gweithle gwych i’n holl gyflogeion; amgylchedd cynhwysol a pharchus sy’n adlewyrchu amrywiaeth y gymdeithas rydym yn ei gwasanaethu.
Rydym eisiau helpu pawb sy’n dewis gweithio i ni i gyflawni eu holl botensial, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o batrymau gwaith hyblyg yn ogystal â chymorth er mwyn i chi gael gyrfa sy’n rhoi boddhad i chi yn CThEF.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.
Mae’r Uned Gymraeg yn rhan o adran ehangach y Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol sy’n gweithio, ar hyn o bryd, tuag at y gweddnewid digidol mwyaf yn hanes y llywodraeth. Dyna pam mae hi’n amser gwych i ymuno â CThEF.
Yr hyn sy’n ein gwneud yn wahanol i bawb arall yw ein hymroddiad i roi gwasanaeth o’r radd flaenaf, yn ogystal ag ymgysylltu â’n gweithlu a’i wella ar hyd y ffordd. Byddwch yn cael hyfforddiant llawn, a byddwn yn eich cynorthwyo ar hyd llwybr eich gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil.
Mae dyletswyddau’r rôl yn cynnwys defnyddio pecynnau meddalwedd modern i gynorthwyo wrth gyfieithu dogfennau amrywiol mewn sawl fformat electronig gwahanol, yn ogystal â thrafod a helpu i benderfynu ar derminoleg ac arddull ysgrifennu newydd. Bydd cyfleoedd rheolaidd hefyd i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brosiectau cyfieithu. Bydd hyn yn ehangu’ch profiad o reoli cwsmeriaid a’r hyn y maent yn galw amdano, yn gloywi’ch sgiliau mewn perthynas â meddalwedd cyfieithu a therminoleg cyfieithu, ac yn egluro sut rydym yn darparu ein gwasanaethau Cymraeg. Byddwch yn dilyn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr a strwythuredig, a fydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o’r sgiliau hyn.
I helpu gyda hyn, bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, gallu cynhyrchu cyfieithiadau o’r radd flaenaf, a bod yn flaengar gan ddangos agwedd bositif a pharodrwydd i ddysgu. Manyleb bersonol
Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys y canlynol:
- Cyfieithu deunydd CThEF – mewn modd sy’n bodloni safonau o’r radd flaenaf a dyddiadau cau y cytunir arnynt – gan gynnwys gohebiaeth, ffurflenni, taflenni, cynnwys ar y we a gwasanaethau ar-lein, yn ogystal â gwybodaeth i weinidogion.
- Prawf-ddarllen cyfieithiadau cydweithwyr, a rhai eich hun, yn brydlon - gan bob amser ystyried yr holl ddyddiadau cau.
- Gwneud defnydd llawn a phriodol o’n meddalwedd cof cyfieithu - Trados - gan sicrhau ei bod yn cael ei llenwi â chyfieithiadau o safon (byddwch yn cael hyfforddiant).
- Cynorthwyo wrth ymchwilio i derminoleg a ddefnyddir mewn ystod eang o bynciau a’i hamgyffred, gan ddiweddaru a gwella eich gwybodaeth ieithyddol a thechnegol yn ôl y gofyn.
- Chwilio am gyfleoedd i roi’r gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid, a’r Adran, drwy fod yn hyblyg wrth ymdrin â blaenoriaethau gwaith newydd a newidiol, a thrwy gynhyrchu cyfieithiadau yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol.
- Ymdrechu i wella safon ein gwasanaethau - gan ddilyn yr egwyddor o ystyried y cwsmer yn gyntaf ar bob achlysur - a gan bwysleisio pwysigrwydd profiad y cwsmer wrth ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg CThEF.
Meini Prawf Hanfodol:
Bydd gennych:
- Sgiliau iaith rhagorol (Cymraeg a Saesneg).
- Gradd yn y Gymraeg neu gymhwyster Cymraeg cyfatebol neu brofiad o gyfieithu i’r Gymraeg.
Dylech hefyd fod â gwybodaeth gadarn a phrofiad o’r canlynol:
- Prosesau, meddalwedd ac adnoddau cyfieithu Cymraeg (ar bapur yn ogystal ag ar-lein).
- Blaenoriaethu llwythi gwaith a chyfathrebu’n effeithiol.
- Gofynion cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.
Meini Prawf Dymunol:
- Bod yn Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Saesneg i’r Gymraeg).
- Gwybodaeth gadarn am y gwahanol fformatau y mae angen cyfieithiadau Cymraeg (e.e. Word, Excel, PDF, HTML, ac ati).
Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:
- Cyfathrebu a Dylanwadu
- Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
- Cyflawni’n brydlon
Byddwn yn eich asesu yn erbyn y sgiliau technegol hyn yn ystod y broses ddethol:
- Sgil Technegol - Cyfieithu i’r Gymraeg
- Prawf Ysgrifenedig - Cyfieithu i’r Gymraeg
-
Job Type
Permanent, Full Time
-
Work Authorisation
No
- Industry Sector Other